Dyddiad cyhoeddi: 1 Medi 2021

Blaenoriaethau ar gyfer Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Ymateb Archwilio Cymru

Cyflwyniad

1           O ystyried ein cylch gwaith, byddwch yn gwerthfawrogi na fyddai'n briodol inni roi sylwadau ar flaenoriaethau cymharol y Pwyllgor. Fodd bynnag, rydym wedi gwneud sylwadau isod ar rai materion penodol sy'n deillio o'n gwaith blaenorol a'r gwaith sydd ar y gweill a allai fod yn berthnasol i gylch gwaith y Pwyllgor. Gobeithiwn y bydd hyn yn werthfawr i'r Pwyllgor wrth iddo lunio ei raglen waith.

Adfywio canol trefi

2           Ar yr 2il o Fedi byddwn yn cyhoeddi adroddiad ar adfywio canol trefi. Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd wedi tynnu sylw at y pwnc hwn ymhlith eu blaenoriaethau mewn gohebiaeth â'r Pwyllgor Newid hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith. Gall hefyd fod yn berthnasol i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Yn ystod ein gwaith, rhannom ein canfyddiadau gyda Llywodraeth Cymru ac fe aethom i Grŵp Gweithredu Canol Tref y Gweinidog blaenorol. Mae ein hadroddiad yn galw am benderfyniadau dewr ac arweinyddiaeth uchelgeisiol i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu canol ein trefi, gan wneud argymhellion i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.

Datblygiadau yn dilyn pontio o’r UE

3           Gwnaethom lunio llythyr diweddaru ym mis Tachwedd 2020 ar y paratoadau ar gyfer diwedd y cyfnod pontio Brexit gan ddarparu sylwadau ar rai o'r meysydd risg allweddol sy'n deillio o gynllun diwedd cyfnod pontio Llywodraeth Cymru. Mae rhai o'r meysydd hyn yn cwmpasu meysydd nad ydynt wedi'u datganoli neu lle mae camau gweithredu gan wasanaethau cyhoeddus Cymru yn gysylltiedig â gweithgareddau ledled y DU. Mewn rhai achosion, roedd y materion yn debyg p'un a oedd cytundeb ai peidio, yn enwedig y gofyniad am wiriadau yn y porthladdoedd a pherthynas fasnachu newydd i fusnesau. Bydd ein hadroddiad Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus sydd i’w gyhoeddi yn fuan yn nodi nad yw swyddogaeth Llywodraeth Cymru yn y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn glir eto.

4           Rydym yn parhau i gadw llygad ar y maes hwn ond nid oes gennym unrhyw gynlluniau ar y gweill ar hyn o bryd ar gyfer gwaith pellach. Fodd bynnag, efallai y bydd gan y Pwyllgor ddiddordeb ehangach mewn gwaith y mae'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn ei wneud ar 'gefnogi adferiad economaidd lleol', sy'n ystyried pa mor dda y mae llywodraeth y DU wedi dysgu a chymhwyso dysgu o raglenni twf lleol blaenorol wrth iddo ddatblygu amryw o'i mentrau newydd. Rydym wedi trafod unrhyw ddysgu perthnasol gyda chydweithwyr y Swyddfa Archwilio Genedlaethol o rywfaint o'n gwaith archwilio blaenorol yng Nghymru. Rydym hefyd yn ymwybodol o ymgysylltiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol â Llywodraeth Cymru i gasglu barn fel rhan o'r gwaith y mae'n ei gwblhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am reoli ffin y DU ac i adrodd ar gynnydd gyda thrafodaethau masnach. Rydym yn deall bod yr adroddiadau hynny i'w cael eu cyhoeddi cyn diwedd 2021.

Cronfeydd datblygu gwledig a chymorth fferm

5           Efallai y bydd gan y Pwyllgor ddiddordeb yn y trefniadau a fydd yn disodli cronfeydd datblygu gwledig a chymorth fferm, a’r chwblhad o raglen datblygu gwledig 2014-2020. Cyfeiriodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus blaenorol at faterion cysylltiedig fel rhan o'i ystyriaeth o grantiau datblygu gwledig yn ystod 2020-21, yn dilyn ein hadroddiad ym mis Mehefin 2020.

6           Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn cynnal archwiliad cyfrifon blynyddol o Gronfeydd Amaethyddol Ewrop sy'n dod i Gymru. Cynhelir yr archwiliad ar gais yr Undeb Ewropeaidd mewn consortiwm o archwilwyr y DU o dan arweiniad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Mae ein gwaith wedi cynnwys:

·                Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD), Colofn 2, darparu cyllid ar gyfer datblygu gwledig a phrosiectau amaeth-amgylcheddol; a

·                Cronfa Gwarantu Amaethyddol Ewrop (EAGF), Colofn 1, darparu cyllid ar gyfer cynlluniau i annog cynhyrchu a darparu prisiau gwarantedig ar gyfer cynhyrchion penodol. Rhoddodd y DU y gorau i hawlio am y gronfa hon ar ddiwedd 2020, yn wahanol i'r EAFRD y bydd y DU yn parhau i'w hawlio tan ddiwedd 2023.

7           Fe gyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol farn 'Cyfyngiad cwmpas ar gyfer Cyfreithlondeb a Rheoleidd-dra' amodol ar gyfrifon Cronfeydd Amaethyddol Ewropeaidd Cymru a ddaeth i Gymru yn 2018 a 2019. Y rheswm am hyn oedd bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi rhywfaint o arian Ewropeaidd i sefydliadau heb dystiolaeth o broses ymgeisio gystadleuol. Nid oedd hyn yn cydymffurfio â rheolau ariannu Ewropeaidd. Ym mis Chwefror 2021, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus gwaharddiad o €3.4 miliwn.

Materion mewn addysg uwch ac addysg bellach

8           Dros y ddau fis nesaf, byddwn yn cyhoeddi cyfres o allbynnau 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus'. Bydd y rhain yn cynnwys adroddiad byr sy'n ystyried materion mewn addysg uwch ac addysg bellach. Bydd yr adroddiad hwnnw'n tynnu sylw at y ffaith y bydd yn awr yn hanfodol i brifysgolion fanteisio ar ffynonellau eraill o gyllid ar gyfer ymchwil wrth iddynt geisio disodli cyllid yr UE ar gyfer ymchwil ac arloesi. Byddwn hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn wynebu her i ddisodli cyllid yr UE ar gyfer prentisiaethau a dysgu o fewn gwaith arall gyda llawer ohono'n cael ei ddarparu gan golegau addysg bellach ac yn rhan bwysig o'u hincwm.

Cymorth busnes COVID

9           Yn ystod yr hydref, rydym yn bwriadu datblygu rhywfaint o waith yn edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd hyd yma mewn perthynas â chymorth busnes COVID Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd rydym yn rhagweld mai maes ffocws ar gyfer y gwaith hwn fydd ystyried y camau y mae Llywodraeth Cymru bellach yn eu cymryd o ran 'sicrwydd ôl-dalu' ac ystyried yr hyn sydd wedi digwydd i fusnesau sydd wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru. Mae'r gwaith hwn yn debygol o ddefnyddio canfyddiadau sy'n dod i'r amlwg o waith paru data sydd wedi'i wneud drwy'r Fenter Twyll Genedlaethol. Mae'r amserlen arfaethedig gyffredinol ar gyfer y gwaith hwn i'w chadarnhau o hyd.

Cefnogi mentrau cymdeithasol

10        Rydym newydd ddechrau astudiaeth a fydd yn ystyried sut mae awdurdodau lleol yn cefnogi creu a datblygu mentrau cymdeithasol ac efallai y byddwn hefyd yn sôn am gymorth perthnasol gan Lywodraeth Cymru. Mae ein hadolygiad wedi’i wreiddio mewn dyletswydd benodol a osodir ar awdurdodau lleol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Fodd bynnag, disgwyliwn y bydd hefyd yn ystyried sut y mae menter gymdeithasol wedi cael ei hystyried fel rhan o bortffolios strategol ehangach. Disgwylir i'r gwaith hwn barhau hyd at hydref 2022.

Mynd i'r afael â thlodi

11        Er ei bod yn debygol o fod o ddiddordeb i gylch gwaith pwyllgorau eraill hefyd, rydym yn parhau ag adolygiad yn edrych ar y camau y mae awdurdodau lleol yn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi a'i liniaru. Disgwylir i'r gwaith hwn barhau hyd at haf 2022.